Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

 

Pwynt craffu ar Rinweddau: Diben y Rheoliadau hyn yw dileu esemptiadau ar gyfer cynhyrchion bwyd perthnasol sy’n cael eu marchnata’n gyfreithlon yn Aelod-wladwriaethau’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu Weriniaeth Twrci. Nid yw’r esemptiadau yn briodol mwyach yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.   

Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau yr ystyriwyd cymhwyso Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 wrth lunio’r Rheoliadau. Nid oedd tynnu cydnabyddiaeth yn ôl ar gyfer nwyddau sy’n cael eu marchnata’n gyfreithlon mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig (“cydnabyddiaeth y DU”) yn rhan o ddiben y Rheoliadau. Nid oedd angen cadw effaith darpariaethau datganedig presennol cydnabyddiaeth y DU yn yr offerynnau diwygiedig (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol gofynnol er mwyn ystyried Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon) oherwydd bydd Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn gymwys er mwyn parhau cydnabyddiaeth y DU o 1 Hydref 2022 ymlaen (pan fydd y darpariaethau trosiannol yn peidio â chael effaith).